Cymhlethdod mewn meddygaeth | hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o feddygon
Yn y blog mis yma, Dr Hilary Williams, Is Lywydd Coleg Brenhinol y Meddygon yng Nghymru sy’n bwrw golwg ar yr arolygiad diweddar o wasanaethau gofal iechyd, gofal mewn coridorau ac amseroedd aros.
Fis diwethaf, cyhoeddodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru eu hadroddiad blynyddol 2023–2024, gan nodi canfyddiadau allweddol o’r broses o reoleiddio, arolygu ac adolygu gwasanaethau gofal iechyd ledled Cymru. Tanlinellodd yr adroddiad y pwysau parhaus ar y GIG, gan gynnwys prinder gweithlu, galw cynyddol gan gleifion a phroblemau parhaus o ran mynediad at ofal a gynlluniwyd a gofal brys. Mae adrannau argyfwng yn orlawn gydag oedi hir wrth gael asesiad a thriniaeth.
Dyma’r GIG rydyn ni’n gweithio ynddo bob dydd. Dyma’r GIG y mae ein teuluoedd a’n ffrindiau yn ei brofi pan fyddan nhw’n sâl. Roedd nifer o’r problemau a ddisgrifiwyd yn yr adroddiad eleni i’w gweld yn adroddiad y llynedd, felly mae’n ymddangos na fu rhyw lawer o welliant yn ystod y 12 mis diwethaf.
Mae gormod o bobl yn cael eu trin mewn coridorau yn lle gwelyau’r ysbytai. Does dim angen i fi ddweud wrthych nad yw hynny’n ffordd urddasol o ofalu am bobl. Mae hefyd yn dinistrio ein heneidiau ni fel staff. Mae Coleg Brenhinol y Meddygon yn gwbl gefnogol o ymgyrch y Coleg Nyrsio Brenhinol i ddod â gofal mewn coridorau i ben ac rwy’n falch o fod yn rhan o’r trafodaethau hyn ar eich rhan. Nid yw gweithio ar gapasiti o 120% byth yn effeithiol ac rydyn ni’n gwneud y mymryn lleiaf i gadw pobl yn ddiogel.
Sut rydyn ni’n datrys problem amseroedd aros?
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Ysgrifennydd Iechyd Cymru, Jeremy Miles AS fuddsoddiad £28 miliwn ar amseroedd aros y GIG. Bydd y cyllid newydd yn talu am fwy o apwyntiadau gyda’r nos ac ar benwythnosau a gwell gweithio rhanbarthol mewn arbenigeddau fel orthopaedeg, offthalmoleg, llawfeddygaeth gyffredinol a gynaecoleg. Ond rydyn ni hefyd yn gwybod bod meddygon yn chwarae rôl hollbwysig wrth gadw llif ysbytai i symud, felly a fydd hyn yn cael ei gyflwyno heb ein timau acíwt, gan gynnwys ein cofrestryddion meddygol sy’n darparu gofal meddygol 24/7?
Yn fy arbenigedd fy hun, oncoleg feddygol, rydyn ni’n fwyfwy ymwybodol, tra bod cyffuriau newydd yn cael eu hariannu, nad oes unrhyw arian ychwanegol i gwmpasu’r gofal acíwt cymhleth sydd ei angen i reoli’r tocsigrwydd sy’n dilyn. Byddwn yn ysgrifennu at adolygiad annibynnol y GIG yng Nghymru i sicrhau bod llais meddygaeth – eich llais chi – yn cael ei glywed.
Mae darparu gofal gwell â mwy o ffocws yn thema gyson yn fy mlog, ond mae'r system yn teimlo'n sownd. Mae meddygon yng Nghymru yn sylfaenol bwysig o ran darparu gwell gofal acíwt a gofal a gynlluniwyd, yn ogystal â hyfforddi ymgynghorwyr a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau’r dyfodol. Mae angen gwneud penderfyniadau wrth y drws ffrynt a rheolaeth brofiadol o ran cydafiachedd.
Ydyn ni’n gwneud digon i ddenu’r gweithlu rheoli iawn i’r GIG yng Nghymru?
Yn bersonol, rhoddodd Camilla Cavendish grynodeb da o hyn mewn erthygl yn y Financial Times yn ddiweddar – roedd hi’n cofio Gerry Robinson a dreuliodd amser yn ceisio gweddnewid Ysbyty Cyffredinol Rotherham, a ddywedodd wrthi ‘na fyddai’r GIG byth yn gwella nes iddo sylweddoli bod rheoli sefydliadau cymhleth yn fusnes difrifol’.
Wrth i Bwyllgor Meddygon Preswyl Coleg Brenhinol y Meddygon, a newidiodd ei enw’n ddiweddar, ddechrau cynllunio ei waith ar gyfer 2025, rwy’n credu bod nifer o’n meddygon preswyl, yn enwedig ein cydweithwyr Rheoli Gwybodaeth a Thechnoleg, yn teimlo eu bod wedi’u gadael ar ôl. Maen nhw’n gweithio patrymau shifft di-baid, yn teimlo eu bod yn cael eu tanbrisio heb strwythur tîm cefnogol, a rôl sydd wedi'i chyfyngu i gyflawni tasgau. Rydw i eisiau clywed am eich profiadau, felly cysylltwch â ni os oes gennych stori am sut mae hyfforddiant wedi gwella'n lleol. Rydyn ni eisiau dangos cymaint o brofiadau â phosib drwy ein cyfres newydd o flogiau #NextGen – NextGen@rcp.ac.uk. Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i weithio'n agos gydag AaGIC i dynnu sylw at faterion sy'n codi. Byddwn yn cyhoeddi ein rhaglen o ymweliadau ag ysbytai ar gyfer 2025 cyn bo hir, ac rwy’n falch o ddweud y cafwyd tyrfa dda iawn yn ein cynhadledd i diwtoriaid coleg/ tiwtoriaid cyswllt y coleg yr wythnos ddiwethaf.
Ac nid yw'n rhy hwyr i chi ymuno â'r drafodaeth! Byddwn yn gofyn am eich syniadau am beth ddylai Llywodraeth Cymru ei flaenoriaethu ar ôl etholiad y Senedd yn 2026. Ymunwch â ni yn Y diweddaraf mewn meddygaeth – Caerdydd ym mis Rhagfyr. Pe gallech chwifio hudlath, beth fyddech chi'n ei newid? Mae ambell le ar ôl yn y gynhadledd ei hun, ond os na allwch chi ddod yn bersonol, cysylltwch â ni i wneud yn siŵr bod ein galwadau polisi yn adlewyrchu'r atebion a'r heriau rydych chi'n eu hwynebu bob dydd.
Cymerwch ofal.
Legal Disclaimer:
EIN Presswire provides this news content "as is" without warranty of any kind. We do not accept any responsibility or liability for the accuracy, content, images, videos, licenses, completeness, legality, or reliability of the information contained in this article. If you have any complaints or copyright issues related to this article, kindly contact the author above.
